{"product_id":"2940014900379","title":"A Welsh-English Pocket Dictionary","description":"RHAGYMADRODD.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003eMae yr awyddfryd cynyddol sydd yn mhlith y Cymry i ymgydnabod yn fwy a'r iaith Saesoneg yn un o arwyddion gobeithiol yr amserau. Am bob un o'n cydgenedl ag oedd yn deall Saesoneg yn nechreuad y ganrif hon, mae yn debyg na fethem wrth ddyweud fod ugeiniau os nad canoedd yn ei deall yn awr. O'r ochor arall, y mae rhifedi mwy nag a feddylid o'r Saeson sy'n ymweled a'n gwlad yn ystod misoedd yr haf yn gwneuthur ymdrech nid bychan i ddysgu Cymraeg.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003eOnd mae yn eglur nas gall neb feistroli iaith estronol heb gymorth geiriaduron. Nis gellir dyweud fod y gwahanol Eiriaduron sydd yn awr ar y maes yn rhai ymarferol o herwydd y mae ynddynt filoedd o eiriau nad arferwyd erioed, ac ond odid nad arferir byth; ac y mae hyny, wrth reswm, yn chwyddo y gwaith, nes peri ei fod allan o gyraedd y dosparth iselradd. Geiriadur rhad ymarferol yw hwn i'r lluaws nad allant hyfforddio i gael rhai mwy.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003eOnd er fod llawer o'r geiriau anarferedig wedi eu gadael allan, eto y mae yn cynwys pob gair sydd mewn arferiad gyffredin wrth siarad ac ysgrifenu.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003eCymerwyd gofal mawr yn narlleniad y tafleni, fel yr hyderir nad oes ynddo un gwall gwerth ei nodi.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003eRhagfyr 14, 1861.","brand":"OGB","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47146207445232,"sku":"2940014900379","price":0.99,"currency_code":"USD","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0737\/7593\/9824\/files\/2940014900379_p0.jpg?v=1763616911","url":"https:\/\/shop-qa.barnesandnoble.com\/products\/2940014900379","provider":"Barnes \u0026 Noble (DEV)","version":"1.0","type":"link"}