{"product_id":"9780140284768","title":"Haynes Cymru","description":"\u003cp\u003eYn ymestyn o'r Oesoedd Iâ hyd y dwthwn hwn, mae'r gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno o'r byd y daethpwyd i'w hadnabod fel Cymru. Dyma'r llyfr sy'n egluro pam, 'er gwaethaf pawb a phopeth, 'rydym yma o hyd'. Yn yr astudiaeth ddiffiniol hon o hanes Cymru, trafodir bryn gaerau cynhanesyddol, olion Rhufeinig, gorchestion a methiannau tywysogion yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, datblygiad Anghydffurfiaeth, y Chwyldro Diwydiannol, twf yr ymdeimlad cenedlaethol, streiciau'r glowyr a'r ymgyrch i ennill ymreolaeth. Yn yr argraffiad newydd hwn, y mae'r stori yn cyrraedd y cyfnod newydd sydd wedi deillio o sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.\u003c\/p\u003e","brand":"Penguin UK","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47008583319792,"sku":"9780140284768","price":26.5,"currency_code":"USD","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0737\/7593\/9824\/files\/9780140284768_p0.jpg?v=1763642348","url":"https:\/\/shop-qa.barnesandnoble.com\/products\/9780140284768","provider":"Barnes \u0026 Noble (DEV)","version":"1.0","type":"link"}