{"product_id":"9780141961729","title":"Hanes Cymru (A History of Wales in Welsh)","description":"\u003cp\u003eYn ymestyn o'r Oesoedd Iâ hyd y dwthwn hwn, mae'r gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno o'r byd y daethpwyd i'w hadnabod fel Cymru. Dyma'r llyfr sy'n egluro pam, 'er gwaethaf pawb a phopeth, 'rydym yma o hyd'.\u003cbr\u003eYn yr astudiaeth ddiffiniol hon o hanes Cymru, trafodir bryn gaerau cynhanesyddol, olion Rhufeinig, gorchestion a methiannau tywysogion yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, datblygiad Anghydffurfiaeth, y Chwyldro Diwydiannol, twf yr ymdeimlad cenedlaethol, streiciau'r glowyr a'r ymgyrch i ennill ymreolaeth. Yn yr argraffiad newydd hwn, y mae'r stori yn cyrraedd y cyfnod newydd sydd wedi deillio o sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.\u003c\/p\u003e","brand":"Penguin Books, Limited","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47108847960304,"sku":"9780141961729","price":11.49,"currency_code":"USD","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0737\/7593\/9824\/files\/9780141961729_p0.jpg?v=1763656174","url":"https:\/\/shop-qa.barnesandnoble.com\/products\/9780141961729","provider":"Barnes \u0026 Noble (DEV)","version":"1.0","type":"link"}