{"product_id":"9781783168903","title":"Nid Sianel Gyffredin Mohoni!: Hanes Sefydlu S4C","description":"Dyma’r astudiaeth gyntaf ar hanes blynyddoedd cynnar un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru – Sianel Pedwar Cymru – sy’n cloriannu penderfyniadau a gweithgareddau’r sianel yn ystod blynyddoedd ei chyfnod prawf rhwng 1981 a 1985. Trwy gyfrwng astudiaeth o gofnodion, gohebiaeth a chyfweliadau gydag unigolion fu’n allweddol i fenter gyffrous S4C, eir ati i ddarlunio’r sialensiau, y llwyddiannau a’r methiannau fu’n wynebu Awdurdod a swyddogion S4C wrth iddynt fynd ati i lunio gwasanaeth teledu Cymraeg fyddai’n ateb gofynion ac anghenion y gynulleidfa yng Nghymru. Ceir yn y gyfrol hefyd ddadansoddiad o’r gwersi y gall hanes y sianel ei gynnig i’w swyddogion cyfredol wrth iddynt fynd ati i’w gosod ar seiliau cadarn ar gyfer dyfodol sy’n ymddangos yn gynyddol ansicr.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47301061738736,"sku":"9781783168903","price":38.51,"currency_code":"USD","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0737\/7593\/9824\/files\/9781783168903_p0.jpg?v=1763722207","url":"https:\/\/shop-qa.barnesandnoble.com\/products\/9781783168903","provider":"Barnes \u0026 Noble (DEV)","version":"1.0","type":"link"}