{"product_id":"9781783169108","title":"Cyfoethogi'r Cyfathrebu: Llawlyfr Ymarferol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion","description":"Diweddariad o’r gyfrol Cyflwyno’r Gymraeg: Llawlyfr i Diwtoriaid (2000) dan olygyddiaeth Christine Jones yw Cyfoethogi’r Cyfathrebu: Llawlyfr Ymarferol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae’r gyfrol hon yn cynnwys rhai o benodau’r gyfrol wreiddiol wedi’u diweddaru, ynghyd â phenodau newydd ar feysydd sydd wedi dod yn fwy amlwg yn y maes ers 2000 (er enghraifft, dysgu anffurfiol, addysgu ar-lein, y fframwaith asesu newydd a chyfraniad y maes i bolisïau iaith cenedlaethol). Ceir penodau ar y wers gyntaf, gweithgareddau cyfathrebol, meithrin sgiliau gwahanol megis sgiliau ysgrifennu neu sgiliau gwylio, a phennod agoriadol ar ddulliau dysgu ar dwf y maes a’r syniadau a ddylanwadodd ar fethodoleg dros yr ugeinfed ganrif a’r ganrif hon.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47150118207728,"sku":"9781783169108","price":38.51,"currency_code":"USD","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0737\/7593\/9824\/files\/9781783169108_p0.jpg?v=1763722559","url":"https:\/\/shop-qa.barnesandnoble.com\/products\/9781783169108","provider":"Barnes \u0026 Noble (DEV)","version":"1.0","type":"link"}