{"product_id":"9781786830364","title":"Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards","description":"Mae Perfformio’r Genedl yn gyfrol sy’n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i’r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i’r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o’i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol – sef astudiaeth o’r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o’r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae’r gyfrol yn canoli ar themâu amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau’r Orsedd,  y drafodaeth o ddramâu cynnar y mudiad drama, a’r dogfennu ar weithgaredd cwmnïau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu’r amryw themâu yn ei waith a’u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o’r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":47152683385072,"sku":"9781786830364","price":38.51,"currency_code":"USD","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0737\/7593\/9824\/files\/9781786830364_p0.jpg?v=1763737929","url":"https:\/\/shop-qa.barnesandnoble.com\/products\/9781786830364","provider":"Barnes \u0026 Noble (DEV)","version":"1.0","type":"link"}